E-Thesis 399 views
Agweddau ar lên taith yn y Gymraeg mewn perthynas ag America Ladin / ELAN MUSE
Swansea University Author: ELAN MUSE
DOI (Published version): 10.23889/SUthesis.62590
Abstract
Cymharol brin yw’r sylw a roddwyd i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, a’r unfed ganrif ar hugain sy’n lleoli llenyddiaeth Gymraeg o fewn cyd-destun trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol. Prin hefyd yw’r sylw hyd yma a roddwyd i lên taith yn benodol. Amcan y traethawd hwn felly yw rhoi dyledus sy...
Published: |
Swansea
2023
|
---|---|
Institution: | Swansea University |
Degree level: | Doctoral |
Degree name: | Ph.D |
Supervisor: | Hallam, Tudur ; Lublin, Geraldine ; Williams, Heather |
URI: | https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa62590 |
Abstract: |
Cymharol brin yw’r sylw a roddwyd i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, a’r unfed ganrif ar hugain sy’n lleoli llenyddiaeth Gymraeg o fewn cyd-destun trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol. Prin hefyd yw’r sylw hyd yma a roddwyd i lên taith yn benodol. Amcan y traethawd hwn felly yw rhoi dyledus sylw i lên taith yn y Gymraeg gan leoli’r astudiaeth honno o fewn cyd-destun ôl-drefedigaethol, a chan ganolbwyntio ar lên taith sy’n ymwneud ag America Ladin. Mae’r gwaith yn rhan o sgwrs ehangach yn y Gymraeg am y tensiwn y mae Cymru yn ei brofi, rhwng bod yn ddioddefwyr i imperialaeth Brydeinig ac yn weithredwyr trefedigaethol ar yr un pryd. Wrth ymdrin â llên taith am Batagonia yn benodol, mae’r gwaith yn tynnu ar faes theori aneddfeydd gwladfaol. Mae’r ymchwil hwn yn cyfrannu i faes astudiaethau llên taith hefyd trwy ddadlau dros gynnwys barddoniaeth o fewn astudiaethau o lên taith; a chan dynnu ar enghreifftiau o farddoniaeth daith Gymraeg dros gyfnod o ganrif, bydd yr ymchwil hwn yn dangos sut y mae beirdd yn benthyg ac yn arbrofi â chonfensiynau rhyddiaith daith o fewn barddoniaeth daith. Y testunau dan sylw yw ‘O ddyddlyfr taith’ (1931) gan T. H. Parry-Williams; Sajama (1960) ac Illimani (1964) gan T. Ifor Rees; Dringo’r Andes (1904) gan Eluned Morgan; Crwydro Patagonia (1960) gan R. Bryn Williams; Eldorado (1999) gan Twm Morys ac Iwan Llwyd; a Glaniad (2015) gan Mererid Hopwood a Karen Owen. |
---|---|
Keywords: |
llên taith, Patagonia, De America, America Ladin, Cymraeg, Barddoniaeth, Ol-drefedigaethedd |
College: |
Faculty of Humanities and Social Sciences |