E-Thesis 553 views 521 downloads
Y cysyniad o ganon llenyddol Cymraeg: Gyda golwg ar waith beirniadol Saunders Lewis, R. M. Jones ac Alan Llwyd. / Tudur Hallam
Swansea University Author: Tudur Hallam
-
PDF | E-Thesis
Download (11.83MB)
Abstract
Archwilir y cysyniad o ganon llenyddol Cymraeg yn y traethawd hwn gan ganolbwyntio ar waith tri beimiad llenyddol, Saunders Lewis, R. M. Jones ac Alan Llwyd. Y maent yn olyniaeth o feistri-feimiaid a bwysleisiodd ffurf ganonaidd llenyddiaeth Gymraeg. Ceir chwe phennod ynghyd a chasgliadau yn y traet...
Published: |
2005
|
---|---|
Institution: | Swansea University |
Degree level: | Doctoral |
Degree name: | Ph.D |
URI: | https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa42686 |
Abstract: |
Archwilir y cysyniad o ganon llenyddol Cymraeg yn y traethawd hwn gan ganolbwyntio ar waith tri beimiad llenyddol, Saunders Lewis, R. M. Jones ac Alan Llwyd. Y maent yn olyniaeth o feistri-feimiaid a bwysleisiodd ffurf ganonaidd llenyddiaeth Gymraeg. Ceir chwe phennod ynghyd a chasgliadau yn y traethawd hwn. Paratoi'r ffordd ar gyfer astudio gwaith y tri beimiad y mae'r tair pennod gyntaf. Y mae'r bennod gyntaf yn un rhagymadroddol ac yn canolbwyntio ar gymeriad yr awdur, gan y bydd syniadau beimiaid ynghylch yr awdur yn effeithio ar eu syniadau ynghylch y canon. Y mae'r ail bennod yn archwilio'r gymhariaeth rhwng canon y Testament Newydd a chanon llenyddol. Nodir i ganon y Testament Newydd ddatblygu law yn Haw a phrofiadau darllen y Cristnogion cynnar fel modd o gadamhau eu ffydd yng Nghrist a'u diffmio'n garfan o bobl. Y mae'r drydedd bennod yn cyflwyno egwyddor lywodraethol y traethawd hwn, sef perthynas y darllenydd a'i amgylchfyd a'i duedd i ddarllen testunau o du sefyllfa arbennig. Nodir bod y modd y canoneiddiwyd gwaith, person a syniadau Saunders Lewis ynghylch 'y traddodiad' yn ddylanwad sefyllfaol o'r fath ar y traethawd hwn. Astudiaeth o waith beirniadol Saunders Lewis yw'r bennod nesaf. Dadleuir iddo roi ffurf ganonaidd i lenyddiaeth Gymraeg, a chyflwyno'r canon llenyddol i genedl a oedd yn darllen llai yn ei Beibl, a hynny'n rhannol yn sgil dylanwad uwchfeimiadaeth. Astudiaeth o waith beimiadol R. M. Jones yw'r bennod nesaf. Gwelir iddo ddefnyddio theori i amddiffyn y canon, ond bod ei ddiffiniad Cristnogol o'r canon yn golygu na all pob darllenydd Cymraeg ei goleddu. Astudir ei waith yntau mewn perthynas a'i amgylchfyd a'i oes. Astudiaeth o waith beimiadol Alan Llwyd yw'r bennod olaf Gwelir iddo anwybyddu theori er mwyn amddiffyn y canon, a bod tebygrwydd yn hyn o beth rhwng agwedd gwrthfeimiaid crefyddol 1890-1914 a gwrth-theoriwyr cyfoes. Cyflwynir casgliadau mewn pennod glo. |
---|---|
Keywords: |
Modern literature. |
College: |
Faculty of Humanities and Social Sciences |