No Cover Image

E-Thesis 307 views 786 downloads

Problemau Awduraeth a Dilysrwydd y Cerddi a Briodolir i Dafydd ap Gwilym. / Sian Eleri Jones

Swansea University Author: Sian Eleri Jones

Abstract

Bwriad y traethawd hwn yw edrych yn feirniadol ar rai o'r meini prawf a ddefnyddiodd Thomas Parry with lunio ei gasgliad o waith Dafydd ap Gwilym. Mae rhai beirniaid wedi codi cwestiynau ynghylch methodoleg Parry, yn eu plith Helen Fulton, a ganddi hi y ceir y syniad o ddadl gylch sy'n gre...

Full description

Published: 2006
Institution: Swansea University
Degree level: Master of Philosophy
Degree name: M.Phil
URI: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa42210
Tags: Add Tag
No Tags, Be the first to tag this record!
Abstract: Bwriad y traethawd hwn yw edrych yn feirniadol ar rai o'r meini prawf a ddefnyddiodd Thomas Parry with lunio ei gasgliad o waith Dafydd ap Gwilym. Mae rhai beirniaid wedi codi cwestiynau ynghylch methodoleg Parry, yn eu plith Helen Fulton, a ganddi hi y ceir y syniad o ddadl gylch sy'n greiddiol i'r traethawd. Mae'r traethawd yn ceisio ymateb i'r cwestiwn sylfaenol a godir gan Fulton, sef, i ba raddau yr oedd Parry yn dewis a dethol cerddi i'w cynnwys yn y canon gan ddefnyddio tystiolaeth hollol wrthrychol ac i ba raddau yr oedd ei benderfyniadau wedi'u dylanwadu gan ei ragdybiaethau am y math o fardd oedd Dafydd ap Gwilym a'r math o waith a ganai? Mae'r traethawd yn edrych ar y ddadl gylch o sawl cyfeiriad. Yn gyntaf, mae'n crynhoi ac yn dadansoddi tystiolaeth y llawysgrifau cynharaf ac yn cynnig craidd o gerddi sydd i'w cael yn y llawysgrifau hynny. Defnyddir y dystiolaeth hon i edrych ar rai enghreifftiau penodol o'r anghysondeb sydd i'w weld yn y modd y cymhwysodd Thomas Parry y maen prawf hwn. Trafodir hefyd lawysgrif Hafod 26, a diddorol gweld cyfraniad y llawysgrif hon i'r canon. Yna, ystyrir rhai o'r casgliadau llai o waith Dafydd ap Gwilym mewn ymgais i greu craidd o gerddi poblogaidd neu graidd y tybir eu bod yn dangos canu Dafydd ar ei orau. Y cam naturiol wedyn yw gweld faint o orgyffwrdd sydd yna rhwng y ddau graidd o gerddi a gofyn a yw'r naill graidd neu'r llall yn cynnig modd o dorri'r ddadl gylch? Mae'r traethawd yn gorffen trwy ystyried elfennau mwy haniaethol gan ofyn a yw personoliaeth y bardd a'r weledigaeth a geir yn ei waith yn cynnig i ni ryw fodd o adnabod ei gerddi pan fo ystyriaethau eraill yn methu?
Keywords: Medieval literature.
College: Faculty of Humanities and Social Sciences